Loading Digwyddiadau

« All Digwyddiadau

Gweithdai Gwneud Llusern

Tachwedd 11 @ 10:30 am - 4:00 pm

Am Ddim

Archebwch le ymlaen llaw ac ymunwch mewn sesiwn gyhoeddus Gwneud Llusern yn rhad ac am ddim yn Theatr Byd Bychan ar

11 Tachwedd o 10.30am – 4pm

Mae Theatr Byd Bychan yn falch iawn i gyhoeddi y gall Aberteifi edrych ymlaen unwaith eto eleni at Barêd Llusernau Enfawr creadigol a llawn dychymyg ar Ragfyr 7 am 7yh, diolch i grant gan Gronfa’r Loteri Fawr. Hoffem hefyd ddiolch i Bags of Help Tesco am eu cyfraniad i’r gweithdai gwneud llusernau a’r deunyddiau.

Treuliwch y bore yn creu fframwaith eich llusern gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy. Yn y prynhawn, amser blêr wrth ychwanegu glud a phapur tusw i’ch ffrâm wiail. Nodwch bydd rhaid i chi dreulio’r dydd gyda Theatr Byd Bychan. Dewch â chinio pecyn. Mae pob llusern yn cael ei storio yn ddiogel yn Theatr Byd Bychan tan y Parêd.

Canllawiau Gwneud Llusernau i’r Cyhoedd

Yn y Gweithdai Gwneud Llusernau mae lle i 70 o bobl bob dydd Sul ac ry’n ni’n cynghori pawb sydd am ymuno i archebu lle rhag blaen.
Addas i oedran 6+. Rhaid i oed 6-7 weithio gyda oedolyn.
Ry’n ni wedi cynllunio Llusern Pysgodyn newydd. Os hoffech wneud y pysgodyn mawr, byddwch yn gweithio mewn parau neu fel teulu. Nodwch y bydd rhaid i blant oed 8+ weithio gydag oedolyn.
Ry’n ni wedi dyfeisio Llusern Cwch ar gyfer oed 8+ sydd am weithio yn annibynnol.
Yn anffodus, oherwydd y galw mawr am leoedd, un gweithdy yn unig ar gyfer pob gwneuthurwr/ teulu sy’n cael ei gynnig eleni.

 

Eleni byddwn yn dathlu Blwyddyn y Môr trwy gyfrwng llusernau mawr iawn yn ogystal â channoedd o lusernau bychain ar gyfer gorymdaith wefreiddiol. Bydd y Parêd yn ymlwybro i fyny Stryd Fawr Aberteifi ac yn dod i ben ar dir Castell Aberteifi. Bydd anghenfil môr Theatr Byd Bychan, sef Cragen, yn ymddangos yn llawn goleuni ar yr Afon Teifi ar y Cei, gan nodi diwedd ei thaith wych cragenmoroeddglan.cymru

ARCHEBU: samba@smallworld.org.uk | 01239 615 952

Addas i oedran 6+. Am ddim

 

Manylion

Dyddiad:
Tachwedd 11
Amser:
10:30 am - 4:00 pm
Cost:
Am Ddim
Digwyddiad Categori:
Digwyddiad Tags:
, , , , , , , , , ,

Trefnydd

Small World Theatre
Ffôn:
01239 615 952
Gwefan:
smallworld.org.uk

Lleoliad

Small World Theatre
Bath House Road
Cardigan, Ceredigion SA43 1JY United Kingdom
+ Google Map
Ffôn:
01239 615 952
Gwefan:
www.smallworld.org.uk