Gŵyl y Goleuni

Ymunwch â Pharêd eleni ar Ragfyr 7ed 2018 am 7yh

Mae dathliadau mawr yn eich disgwyl yn Aberteifi wrth i 4CG a Theatr Byd Bychan weithio gyda Partneriaeth Canol y Dref i gyflwyno’r 4ydd Parêd Llusernau Enfawr. Ymunwch yn y gweithdai cyhoeddus i wneud llusernau ar Dachwedd 10, 24 a Rhagfyr 1 o 10am-4pm yn Theatr Byd Bychan, er mwyn paratoi ar gyfer yr orymdaith ryfeddol fydd yn diweddu yng Nghastell Aberteifi.