- This event has passed.
Gweithdy Cyhoeddus Gwneud Llusern
1st Rhagfyr 2019 @ 10:00 am - 4:00 pm
£2Mae 4CG a Theatr Byd Bychan yn hynod falch i gyhoeddi bydd Parêd Llusernau Enfawr Aberteifi ar 6ed Rhagfyr am 7pm, diolch i nawdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Eleni caiff y dorf o wylwyr a gwneuthurwyr llusernau eu cyflwyno i’r thema ‘Syrcas Aeafol’. Meddyliwch am syrcas oes-a-fu gyda clowniau, eliffantod, zebras, dyn cryf, siwglwyr a pherfformwyr awyr. Bydd y Gweithdai Cyhoeddus Gwneud Llusern o 10am – 4pm (cyrhaeddwch yn brydlon oherwydd mae’n cymryd diwrnod cyfan i wneud llusern) ar ddyddiau Sul 10ed a 24ain Tachwedd a 1af Rhagfyr.
Mae Gwneud Llusern yn addas i blant 8+ a rhaid i’r plant fod yng nghwmni oedolyn. Anogwn deuluoedd sydd â phlant ifancach i weithio gyda’i gilydd. Dewch â ffedog/ofyrôl a chinio pecyn os gwelwch yn dda.
Treuliwch y bore yn creu fframwaith eich llusern gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy. Bydd mwy o flerwch yn y prynhawn wrth ychwanegu glud a phapur tusw i’ch ffrâm helyg. Caiff y llusernau i gyd eu storio’n ddiogel yn Theatr Byd Bychan nes y Parêd.
Canllawiau Gwneud Llusern i’r Cyhoedd
• Dim ond lle i 70 o bobl sydd bob dydd Sul mewn Gweithdy Gwneud Llusern a rhaid archebu’ch lle ymlaen llaw.
• Efallai bydd plant oed 8+ am weithio ar eu llusern eu hunain tra bod rhaid i blant ifancach 6-7 oed weithio gydag oedolyn.
• Yn anffodus, oherwydd y galw uchel am leoedd, ry’n ni’n cynnig un gweithdy yn unig i bob gwneuthurwr llusern/teulu eleni
Bydd £2 am bob llusern yn mynd tuag at gost deunydd. Addas i oed 8+. Archebwch yn gynnar os gwelwch yn dda i osgoi siom.
Archebwch sesiwn gwneud llusern
Cysylltwch â ni ar 01239 615 952 i siarad ag aelod o staff os gwelwch yn dda. Mae Swyddfa Docynnau Theatr Byd Bychan ar agor ddydd Mawrth – Gwener 10am – 4.30pm